Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 7
Chwefror 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Cynllun Gweithredu LHDTC+
(30 munud)
4 Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24
(120 munud)
NDM8194 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 13 Rhagfyr 2022.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.
Gwelliant 2 Siân Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r gyfradd dreth sylfaenol gan 1 geiniog, y gyfradd dreth uwch gan 2 geiniog, a'r gyfradd dreth ychwanegol gan 3 ceiniog er mwyn cynyddu'r gyllideb sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd a gofal a rhoi help ariannol i bobl sydd â'r anghenion mwyaf.
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Adroddiad y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith
Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon,
a Chysylltiadau Rhyngwladol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod eitemau 5 a 6 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud)
5 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)
NDM8197 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Amaethyddiaeth (Cymru).
Gosodwyd Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 26 Medi 2022.
Gosodwyd adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gerbron y Senedd ar 27 Ionawr 2023.
Dogfennau
Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
6 Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru)
NDM8198 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
7 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 8 Chwefror 2023